Yr Ardal

Croeso i chi … i Wefan y Cyngor sy’n cynnwys pentrefi Llanberis a Nantperis

Prin fod yn rhaid crybwyll bod y ddau bentref yn hynod boblogaidd gan ymwelwyr – mae harddwch yr ardal, er gwaethaf diwydiannau’r gorffennol, yn fyd enwog, fel yn wir Chwarel Dinorwig ei hun (ar ochr arall y llyn) sydd ym mhlwyf Llanddeiniolen, ond y cyfeirir ati’n amlach na pheidio fel Chwarel Llanberis.

Bellach mae’r chwarel a’r gwaith trydan-dŵr anferth sydd yng nghrombil y mynydd yn atyniad  hefyd fel y mae’r Gilfach Ddu, safle gweithdai ac Iard y chwarel lle heddiw mae Amgueddfa Lechi Cymru, un o‘r teulu o amgueddfeydd led-led gwlad sydd gan Amgueddfa Cymru.

O son am harddwch yr ardal mae pentref Llanberis o bosib i’w weld ar ei orau o’r ochr yma i Lyn Padarn. Tydi’r llyn a rhan isaf y pentref ddim ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ond mae’r gweddil gan gynnwys Nantperis. Gerllaw mae Rheilffordd Llyn Padarn sydd heddiw yn cario pobl i Benllyn ar ran o’r rheilffordd a fyddai’n cario llechi’r chwarel i borthladd Y Felinheli yn y gorffennol, a bellach daw’r lein i Lanberis ei hun.

Cyn dod yn ôl i Lanberis mae angen son fod rhannau o’r llethrau coediog ar ochr ogleddol y llyn yn meddiant Cyngor Gwynedd. Dyma Barc Padarn sydd hefyd yn cynnwys y dolydd ym mhen ucha’r llyn ynghyd ag Ysbyty’r Chwarel, adeliad o gryn bwysigrwydd pan oedd y gwaith yn ei anterth.

Bellach mae chwareli Dyffryn Peris ynghyd â nifer o ddyffrynoedd eraill yn y gogledd orllewin yn rhan o gais ffurfiol gan Gyngor Gwynedd am statws Safle Treftadaeth Byd – UNESCO gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol.

Erbyn heddiw mae nifer o gwmniau wedi cartrefu yma ac mae offer meddygol ac offer dringo a diogelwch ymhlith cynhyrchion yr oes newydd. Mae nhw hefyd yn gyflogwyr pwysig.

Mae Llanberis ei hun felly yn ganlyniad yr holl chwareli sydd o’i gwmpas (heb son am fwyngloddio hefyd), ond mae pobl wedi dod yma ers canrifoedd am mai hwn yn anad yr un pentref arall erbyn hyn yw’r pentref a gysylltir â’r Wyddfa. Mae llwybr mwyaf poblogaidd mynydd uchaf Cymru’n dechrau yma, fel yn wir y tren a fu’n pwffian ei ffordd i’r copa ers 1896. Ar un adeg roedd yma dair rheilffordd ond yn sgîl torriadau i’r rhwydwaith rheilffyrdd yn y 1960’au caewyd y rheilffordd ‘fawr’ i Gaernarfon a bellach mae gwely’r lein yn rhan o ffordd osgoi’r pentref a Lôn Las Peris i gyfeiriad Cwm-y-glo. Cyn dyddiau’r rheilffordd a gwella’r ffyrdd byddai nifer yn teithio i Lanberis ar gychod o Benllyn. Ar y cychod hefyd yn y dyddiau cynnar iawn y byddai’r llechi’n gadael y chwarel fel yn wir y mwyn copr o sawl mwynglawdd ar lethrau’r Wyddfa ac yn y Nant. Ar un adeg hefyd byddai mwyn haearn yn dod i Lanberis dros Fwlch y Groes o waith haearn Betws Garmon.

Lle mae Nantperis heddiw yr oedd yr hen Lanberis neu Nant Uchaf, ac yma mae Eglwys y Plwyf a gysegrwyd i Beris Sant, yr honnodd rhywun unwaith heb fawr o sail ‘iddo fod yn gardinal yn Rhufain’.

Roedd Nant Uchaf hefyd yn enw cyfarwydd, ond mae’n anodd rhoi bys pryd yn union y newidiwyd yr enwau i’r hyn sydd ganddom heddiw. Yn Nantperis y mae Mynwent y Plwyf, o gwmpas yr Eglwys, ac yna’r fynwent gymunedol dros y ffordd. Y Cyngor hwn sydd a gofal am y fynwent ac mae’r Cyngor hefyd yn torri glaswellt mynwent yr Eglwys ddwywaith yn y tymor.

Mae tafarn yn Nantperis, Ty’n Llan ar lafar, ond y Vaynol Arms i’r ymwelwyr ac un o’r ychydig gyfeiriadau bellach at gyn brif dirfeddianwr yr ardal. Ie, teulu’r Faenol ger Y Felinheli oedd perchennog y chwarel a llawer o dir y fro er fod yna berchnogion eraill. Yn Llanberis mae nifer o dafarnau ynghyd â gwestai a thai bwyta amrywiol. Cynyddu wnaeth twf y tafarnau a’r gwestai yn sgîl twf y chwareli a’r diwydiant ymwelwyr ond roedd pobl yn dod yma ymhell cyn hynny. Dod yma wyth canrif yn ôl i un o gestyll Tywysogion Gwynedd, i Gastell Dolbadarn. Dywedir mai Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) a’i cododd er fod lle i gredu fod yma gaer yn dyddio’n ôl i’r 6ed ganrif. Mae rhan helaeth ohonno wedi goroesi ac yn gorffennol fe ymddangosai lluniau ohonno mewn llyfrau taith, roedd yn atyniad poblogaidd un amser. Ymhlith yr enwocaf o’r lluniau a baentiwyd gan ymwelwyr mae llun enwog JMW Turner o ddiwedd y ddeunawfded ganrif. Credir mai tua 1220 yr adeiladwyd y castell.

Bellach ar lan Llyn Padarn ger Maes Parcio’r pentref mae cleddyf anferth i atgoffa preswylwyr y fro a’r ‘bobl ddwad’ o bwysigrwydd Dolbadarn a chyfnod y tywysogion. Mae’r llyn yn atyniad garw i lawer o ysgolion a chanolfannau awyr agored ac mae gan y Cyngor hwn faes chwarae i blant gerllaw.

Yn y Stryd Fawr mae amrywiaeth o siopau, sawl caffi, garej (ond dim petrol)  a busnesau eraill un ohonynt yn fenter Gymunedol, Menter Fachwen. Edwino a chau fu hanes sawl capel, ond mae dau (Capel Coch a Jerusalem) yn dal ar agor ynghyd â’r eglwys. Yn y pentref hefyd mae canolfan aml bwrpas hardd a defnyddiol. Mae Y Ganolfan yn fendithiol iawn i drigolion y pentref fel hefyd Y Festri, canolfan fechan arall ymhen arall y pentref sy’n canolbwyntio ar weithgarwch i blant a phobl ifanc. Y ddwy’n cael eu rhedeg yn wirfoddol.

I lawer o ymwelwyr pentref gwyliau a phentref gweithgarwch awyr agored ydi Llanberis, ond i ni sy’n byw yma mae’n gartref a chynefin, ac mae angen i ambell un a ddaw yma gofio hynny. Byddai parcio yn y mannau priodol a pheidio gadael eu sbwriel ar ôl yn cael ei groesawu’n fawr.

Dewch yma, mwynhewch eich hun ond cofiwch am y trigolion lleol a’r amgylchedd, cofiwch hefyd fod na amaethu ar y llethrau a’r mynyddoedd – a brysiwch yma eto.

Yr Ardal