Cyngor Cymuned Llanberis a Nant Peris

O ben Bwlch Llanberis i lawr i bont Penllyn dyma ardal yr Wyddfa a’i chriw a llynnoedd Peris a Phadarn, Y Glyderau, Y Garn ac Elidir Fawr yn Eryri. Ardal sy’n cynnwys Nantperis a Llanberis, ardal gyfoethog ei golygfeydd a’i chroeso.

Newyddion a Hysbysebion


Hysbysiad Archwilio
Hysbysiad o benodi’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr:
Cyngor Cymuned Llanberis a Nant Peris – Y flwyddyn ariannol sy’n dod i ben 31 Mawrth 2024


Mynwent Nant Peris
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheoliadau ailgylchu newydd sydd yn weithredol o 6ed o Ebrill. Mae’r rheoliadau yma ar gyfer ymdrechu i ddod yn genedl ddiwastraff a lleihau allyriadau carbon.

Mae Cyngor Cymuned Llanberis yn ei ymdrech i ategu hyn wedi penderfynu ni fydd gwasanaeth codi gwastraff yn y Fynwent Gymunedol yn Nant Peris o’r 6ed o Ebrill 2024 ymlaen.

Gofynnir yn garedig i’r gwastraff gael ei gludo o’r fynwent gan y sawl sydd yn gyfrifol am osod y blodau a’r rhai sydd yn gyfrifol am y beddi.

Heather L Jones
Clerc Cyngor Llanberis Community Council
clerc@cyngorllanberis.cymru
07867 982518


Digwyddiadau Parc Padarn 2024


Ceisiadau am Grantiau

Mae Cyngor Cymuned Llanberis yn debyn ceisiadau am grantiau ar gyfer elusenau, grwpiau a chymdeithasau o fewn y Gymuned hyd at 31 Ionawr 2024.  Dychwelwch eich ffurflen gais at y Clerc.

Ffurflen Cais am Grant / Grant Application Form (Adobe PDF)
Ffurflen Cais am Grant / Grant Application Form (MS Word)

Cyfarfod Nesaf

Cyfarfod misol Cyngor Cymuned Llanberis –  Y Ganolfan Llanberis – 08/05/2024 am 7y.h.

Hafan